top of page

INSPECTION & TESTING

An Electrical Installation Condition Report (EICR) previously known as a Periodic Inspection Report, and sometimes known as a landlord certificate, fixed wiring certificate, or 5 year test, is a summary of the condition of your electrical installation and whether it is suitable for continued use. They should generally be carried out every 10 years domestically, every 5 years in rental and commercial property, and more often in certain other properties.

 

There are various reasons for having an EICR done, including:

  • Letting out a property, in which case this is a legal requirement every 5 years or change of occupancy (whichever is sooner)

  • Checking the electrics in a property you are considering buying

  • A request from your insurance company in the event of a claim

  • After an incident such as a fire or electric shock

  • Peace of mind that your electrics are safe

We have carried out hundreds of EICRs and can provide you with one with a minimum of hassle. We are able to rectify any issues if required.

ARCHWILIO A PHROFI

Mae 'Electrical Installation Condition Report' (EICR), neu'r 'Periodic Inspection Report' fel y'i gelwid yn flaenorol, ac weithiau a enwir yn dystysgrif landlord, tystysgrif weirio, neu brawf 5 mlynedd, yn crynhoi cyflwr eich gosodiad trydanol, a p'un ai ydyw'n addas at ddefnydd pellach. Yn gyffredinol, fe ddylen nhw gael eu gwneud bob 10 mlynedd ar gyfer eiddo domestig, bob 5 mlynedd ar gyfer eiddo rhent neu fasnachol, ac yn amlach mewn rhai mathau o eiddo.

 

Mae nifer o resymau i gael EICR, gan gynnwys:

  • Rhentu eiddo, sy'n golygu ei fod yn ofyniad cyfreithiol bob 5 mlynedd neu bob tro newidir tenantiaeth (pa bynnag un sydd gynharaf)

  • Gwirio weirio eiddo cyn ei brynu

  • Gofyniad gan eich cwmni yswiriant mewn achos cais

  • Yn dilyn digwyddiad megis tân neu sioc drydanol

  • Tawelwch meddwl bod eich weirio yn ddiogel

Rydym wedi cwblhau cannoedd o EICR a gallwn gynnig gwasanaeth ddi-drafferth i chi. Gallwn ddatrys unrhyw broblemau fel bo'r angen.

bottom of page